Home
About UniVerse
Poets by Nation
Poetry + New Media
Support UniVerse
 
Wales
Mererid Hopwood lives in Carmarthen with her husband Maritn and their three children. She was educated in Ysgol Gyfun Llanhari, University College Wales, Aberystwyth and University College London. Her subjects were Spanish and German and she has a PhD in German Literature. After a period of lecturing in London and Swansea she became head of the Mid and West Wales office for the Arts Council of Wales. Since 2001 she is self-employed – working mainly in the fields of Arts and Culture. She teaches part-time at the School of European Languages, at the University in Swansea. Her main interest is poetry (she became the first woman to win the National Eisteddfod Chair in 2001 and she won the Crown in 2003). She also enjoys playing the cello when nobody is listening!

Dadeni – detholiad
 
 
Welsh version

Dadeni – detholiad

Mae fy stori’n hen ddarllenydd, a gwir
ei geiriau’n dragywyd,
’di bod o hyd – ond bob dydd
yn fy neall wyf newydd ...

Tybed?! Ni fentraf gredu
er bod lleisiau’r greddfau’n gry,
amau yr hyn roed imi
a’r wyrth hardd drodd fy nghroth i
yn amlen; eto teimlaf
chwarae rhwydd iâr fach yr haf,
glöyn ewn tu mewn i mi
rywsut yn troi a throsi’n
friw afrwydd, yn wefr hyfryd
yn fy neffro’n gyffro i gyd –
ac o wrando ei gryndod ynof fi, mi wn ei fod.

Fy hanes yw dy hanes di, un cylch
Yn cau a’i ddolenni’n
Ddi-dor, un yw ein stori,
A hon sy’n ein huno ni.

D’eni heno yw’n nadeni innau
I stori gariad ac ystyr geiriau
Fel ‘mam’ a ‘dad’ tu hwnt i ’mhrofiadau,
A bywyd eilwaith mewn byd o olau.
Yn yr heddiw llawn lliwiau, ar unwaith
Af ar y daith i’th yfory dithau.

Curaf yn eiddgar – mae drysau ’nghariad
Yn dal i agor yng nglas dy lygad.
Rwy’n newydd sbon, a thi yw’r esboniad
Yn magu miri – dyma gymeriad!
Watarwr si_r dy siarad, dy un wên
Yw chwarae’r awen, yw’r ail-ddechreuad.

Ond heno’n dy wely tan dawelwch
Na all ein twyllo, yn y tywyllwch
Un haenen oer o ofn yw ’nhynerwch,
Gwewyr â’i ystyr tu hwnt i dristwch –
Oer ddwylo ar eiddilwch fy mabi,
A minnau’n sylwi ar dwymyn salwch.

Dere’r un bach, mae’r machlud
Yn bwrw’i aur, ac mae’n bryd
Cloi corlan dy deganau
A hi’r nos oer yn nesau.
Dere i wrando’r stori
Am y wawr, a gad i mi
Mewn nyth twt, am unwaith ’to,
Dy ddal. Estyn dy ddwylo
Bach gwyn amdanaf
Cyn llithro heno i’th haf.
Dere, fe ddaw’r bore bach
Â’i Frenin a’i gyfrinach.
Cwsg, cwsg fy nhywysog gwyn,
Darfod mae’r dydd diderfyn.

Mae fy neges a’i hanes hi yn hen,
y mae’n h_n na’r stori
ddistaw hon: dy ddewis di
dy hunan yw’r dadeni.